Dyddiad: 28/07/2025 - 30/07/2025
Amser: 10:00 am - 4:00 pm
Dewch i dreulio amser gyda’r tîm Ceidwaid Parciau Cymunedol a phrofi eich sgiliau goroesi yng nghanol y brifddinas. Dros 3 ddiwrnod byddwch yn profi eich dygnwch wrth i chi ddysgu sgiliau dod o hyd i’r ffordd a byw yn y gwyllt. O adeiladu lloches i wneud tân, dewch i brofi rhywbeth gwahanol.
Dydd Llun 28 Gorffennaf 10:00 – 16:00
Dydd Mawrth 29 Gorffennaf 10:00 – 16:00
Dydd Mercher 30 Gorffennaf 10:00 – 16:00
11 – 16 oed a hŷn.
Darperir yr offer i gyd, rhaid gwisgo dillad addas – llewys hir, trowsus, esgidiau cadarn.
***Cost : £25 am 1 diwrnod / £70 am 3 ddiwrnod***
*** Archebwch eich tocynnau yma ac yna taliad cerdyn i’w wneud yn llawn ar y dydd – ni allwn dderbyn arian parod***
Er nad yw’n hanfodol, rydym yn argymell bod eich plentyn/plant yn mynychu pob un o’r 3 sesiwn, gan fod pob diwrnod yn ddilyniant i’r diwrnod cyntaf (dydd Llun).
Rhaid i blant 16 oed neu iau gael eu gollwng gan riant/gwarcheidwad a’u casglu ar ddiwedd y dydd gan riant/gwarcheidwad hysbys.
Dim ond y rhai sydd wedi cwblhau ffurflen gydsynio, ac sydd wedi talu, sy’n gallu cymryd rhan yn y Bŵtcamp Ceidwaid. Ffurflenni caniatâd a gwblhawyd ar ddiwrnod y presenoldeb.
Rhaid gwisgo dillad addas – llewys hir, trowsus, esgidiau cadarn.
Dewch â phecyn bwyd os gwelwch yn dda.
Lleoliad: Canolfan y Wardeiniaid, Fferm y Fforest, Forest Farm Road, yr Eglwys Newydd, Caerdydd.
What3words: ///twist.unique.mini
Trên agosaf: Gorsaf drenau Radur, taith gerdded 6 munud o ganolfan y Wardeiniaid.
Bws agosaf: Radur – Heol yr Orsaf (Rhif 63)
Beicio: Mae rheseli beiciau ar gael
Os nad ydych chi’n gallu dod i’r digwyddiad mwyach, cofiwch ganslo’ch tocyn i alluogi eraill i fynychu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn cysylltwch â: [email protected]
Comments are closed.